MEMORANDWM ESBONIADOL

GORCHYMYN DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 2006 (DIWYGIO) 2019

2019 Rhif. [XXXX]

 

Cyflwyniad

Mae’r memorandwm esboniadol hwn wedi’i baratoi gan Lywodraeth Cymru. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r memorandwm esboniadol a baratowyd gan Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Crynodeb o’r Gorchymyn hwn

Bydd y Gorchymyn yn ychwanegu at yr eithriadau ym mharagraffau 9(6) a 10(2) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru “electoral registration officers (within the meaning given in section 8 of the Representation of the People Act 1983)”. Mae hefyd yn darparu ar gyfer sut y mae’r diwygiadau hyn yn effeithio ar weithredu erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018.

Y cyd-destun deddfwriaethol

Mae paragraff 8 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru yn darparu na chaiff darpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad roi na gosod unrhyw swyddogaeth ar awdurdod a gedwir yn ôl; nac addasu cyfansoddiad awdurdod a gedwir yn ôl; ac na chaiff roi, gosod, addasu na dileu swyddogaethau penodol sy'n cael eu harfer mewn perthynas ag awdurdod a gedwir yn ôl; heb gydsyniad Gweinidog y Goron.

Ar ben hynny, mae paragraff 10 yn darparu na chaiff darpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad ddileu nac addasu unrhyw swyddogaeth gan awdurdod cyhoeddus (ac eithrio awdurdod datganoledig Cymreig) heb gydsyniad y Gweinidog priodol. Ystyrir bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol a benodir o dan adran 8 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn awdurdod a gedwir yn ôl at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru gan fod ganddynt swyddogaethau yn ymwneud ag etholiadau datganoledig a rhai heb eu datganoli, ac nid ydynt wedi'u cynnwys ym mharagraffau 9 na 10, sy’n rhestru’r awdurdodau a gedwir yn ôl nad yw’r gofynion penodol o ran cydsyniad yn berthnasol iddynt.

O ganlyniad, er bod gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol bellach mewn perthynas ag etholiadau Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol, ni fyddai modd iddo ddeddfu ar gyfer rhai newidiadau i'r broses cofrestru etholiadol yng Nghymru ar gyfer etholiadau datganoledig (lle bo newidiadau o’r fath yn ymwneud â swyddogaethau Swyddogion Cofrestru Etholiadol) heb gydsyniad Gweinidog y Goron.

Yn ogystal, mae Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 yn trosglwyddo i Weinidogion Cymru swyddogaethau’n ymwneud â deddfwriaeth etholiadol. Fodd bynnag, nid yw’n gwneud hynny drwy restru pob swyddogaeth yn unigol. Yn hytrach, mae’n gwneud hynny drwy gyfeirio at gymhwysedd datganoledig.

Mae paragraff 12 o Atodlen 7B yn darparu, mewn unrhyw ddeddfiad, nad yw cyfeiriad at gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn cynnwys darpariaeth y gellid ei gwneud mewn Deddf gan y Cynulliad gyda chydsyniad Gweinidog y Goron yn unig.

Gyda'i gilydd, mae gofynion Atodlen 7B a’r ffordd y mae'r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau yn trosglwyddo swyddogaethau yn ymwneud â deddfwriaeth etholiadol yn golygu nad yw swyddogaethau etholiadol allweddol mewn perthynas â Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi cael eu trosglwyddo ac nad oes modd i Weinidogion Cymru eu harfer.

Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru felly wedi cytuno i gynhyrchu Gorchymyn dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru ar fyrder. Bydd y Gorchymyn yn ychwanegu at yr eithriadau ym mharagraffau 9(6) a 10(2) o Atodlen 7B “electoral registration officers (within the meaning given in section 8 of the Representation of the People Act 1983).

 

Y cyd-destun polisi

Prif ddiben y diwygiad i Atodlen 7B yw galluogi'r Cynulliad i ddeddfu ar gyfer newidiadau i brosesau cofrestru etholiadol yng Nghymru ar gyfer etholiadau datganoledig, heb fod angen cydsyniad. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar raglen gymhleth iawn i ddiwygio'r broses ganfasio wrth ochr Llywodraethau'r DU a'r Alban. Dan y trefniadau presennol, ni all Gweinidogion Cymru ond gwneud cyfran fach o'r darpariaethau gofynnol i ddiwygio'r broses ganfasio er mwyn ei diweddaru mewn pryd ar gyfer canfasiad 2020. Byddai'n rhaid i'r darpariaethau sy'n weddill gael eu gwneud fel rhan o gynigion deddfwriaethol y DU, a fyddai'n arwain at osod y newidiadau statudol gofynnol mewn dau OS ar wahân.

 

Ymgynghori

Nid oes unrhyw ymgynghori wedi’i gynnal ar y Gorchymyn hwn, ond mae Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cydweithio i’w datblygu.

Goblygiadau ariannol

Nid oes goblygiadau ariannol yn gysylltiedig â’r Gorchymyn hwn.

 

 

Jeremy Miles AC

Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit